SICM(5)18 - Rheoliadau Gwrteithiau a Deunydd Amoniwm Nitrad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Y cefndir

Bwriedir i’r Rheoliadau cadarnhaol hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag:

-      adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 iddi, ac

-      adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

 

Crynodeb

Ar ôl ymadael, heb ei diwygio, ni fyddai cyfraith gymwys yr UE yn gweithredu’n iawn, a byddai’n amharu ar y fasnach o ran gwrtaith sydd wedi’i awdurdodi ar hyn o bryd o dan gyfraith yr UE. Mae newidiadau yn cael eu gwneud i gynnal safonau gwrtaith yng nghyfraith y DU ac i roi parhad i’r sector a sicrwydd o ran y cyflenwad i ffermwyr. 

Mae’r offeryn hwn yn disodli’r gyfundrefn ‘gwrtaith y Comisiwn Ewropeaidd’ yng nghyfraith yr UE gyda threfn ddomestig newydd, sy’n darparu ar gyfer label ‘gwrtaith y DU’ a fydd yn gweithredu yn yr un modd. Mae hefyd yn caniatáu cyfnod pontio o ddwy flynedd, pan fydd modd i ‘wrteithiau’r UE’ gael eu gwerthu yn y DU o hyd, heb ofyniad i’w hail-labelu, er mwyn sicrhau cyflenwad parhaus ac i leihau’r baich ar fusnesau o ganlyniad i ymadael. Mae’r offeryn hefyd yn diwygio’r rheolau o ran mewnforio gwrtaith amoniwm nitrad, i gynnal safonau diogelwch cyfredol ar yr un pryd â sicrhau cysondeb.  

Datganiad gan Lywodraeth Cymru

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 2 Tachwedd 2018 ynghylch y Rheoliadau.

Yn wreiddiol, cynigiwyd y Rheoliadau i ddilyn y weithdrefn datrys negyddol yn Senedd y DU ym mis Tachwedd 2018. Pan osodwyd y Rheoliadau drafft gwreiddiol gerbron Senedd y DU ar gyfer eu sifftio, gosododd Gweinidogion Cymru gerbron y Cynulliad ddatganiad a oedd yn crynhoi effaith y Rheoliadau drafft, yn unol â Rheol Sefydlog 30C.

Ymddengys nad oedd y Rheoliadau drafft erioed wedi cael eu gwneud yn ffurfiol. Yn lle hynny, gosodwyd y Rheoliadau newydd hyn a fydd yn dilyn y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol. Mae’r fersiwn gadarnhaol hon o’r Rheoliadau hyn yn wahanol i’r fersiwn negyddol arfaethedig o’r Rheoliadau. Y gwahaniaeth pwysicaf, at ddibenion y Pwyllgor, yw bod y Rheoliadau cadarnhaol newydd yn diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1970 ac felly yn ei gwneud yn ofynnol i osod Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM).

Mae Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol wedi’i osod, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi gosod datganiad ysgrifenedig wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r newid a wnaed i’r Rheoliadau. Mae’r Pwyllgor o’r farn bod y Rheoliadau cadarnhaol newydd yn gyfres wahanol o reoliadau, ac felly y dylai Llywodraeth Cymru wneud datganiad ysgrifenedig newydd yn unol â Rheol Sefydlog 30C.

Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai’r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

O ran y diwygiad i Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, rydym yn cydnabod mai mân newid drafftio yw hwn sy’n anorfod o ganlyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.

Cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10

Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

29 Ionawr 2019